-459Days -6Hours -16Mins -29Secs

Rhagarweiniad

Pwy ydyn ni

Ni yw Wythnos Dechnoleg Cymru, sy’n rhan o deulu Technology Connected sy’n enw masnachu ESTnet Cyf. cwmni sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr sydd â’i swyddfa gofrestredig yn Trade Street Desks, 14 Trade Street, Caerdydd, CF10 5DT, rhif cwmni 04016265.

Yr hyn a wnawn

Mae Wythnos Dechnoleg Cymru yn ddigwyddiad rhwydweithio a chynhadledd ar gyfer yr ecosystem dechnoleg, wedi’i threfnu gan Technology Connected. Cyfeirir at hyn ac unrhyw ddigwyddiadau cysylltiedig, boed wyneb-yn-wyneb neu rithwir, fel y “Digwyddiad(au)”.

Strwythur y telerau

Mae’r cytundeb rhyngom ni a’r person sy’n cwblhau’r ffurflen gofrestru berthnasol ar gyfer y Digwyddiad (“chi” neu “eich”). Mae eich cytundeb gyda ni’n cynnwys y telerau ar gyfer:

  1. Ein perthynas â chi
  2. Telerau cyffredinol (Cynrychiolwyr a Mynychwyr)
  3. Telerau arddangoswyr
  4. Polisïau ychwanegol:
    1. Polisi Preifatrwydd
    2. Polisi Cwcis
    3. Côd Ymddygiad

Gyda’i gilydd, y ‘Telerau’.

Ein Perthynas â Chi

Polisi Preifatrwydd

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol, a chyfeirir at ein Polisi Preifatrwydd fel rhan o’r Telerau hyn, a chaiff ei ymgorffori ynddynt. Mae’r Polisi Preifatrwydd yn esbonio’r mathau o wybodaeth sy’n cael ei chasglu, ei storio, ei rhannu a’i phrosesu mewn cysylltiad â’r Digwyddiad perthnasol, sut a pham rydyn ni’n defnyddio gwybodaeth o’r fath, gyda phwy rydyn ni’n ei rhannu a’ch hawliau cyfreithiol. Darllenwch y Polisi’n llawn yma.

Eich cytundeb gyda ni

Dylech ddarllen y ddogfen hon yn ofalus. Mae’r Telerau hyn yn llywodraethu eich cofrestriad ar-lein, presenoldeb a/neu gyfranogiad mewn Digwyddiadau, boed wyneb-yn-wyneb neu’n rhithwir. Trwy gofrestru ar gyfer Digwyddiadau, rydych yn cytuno eich bod wedi darllen a derbyn y Telerau hyn ac yn cytuno i fod yn ymrwymedig yn gyfreithiol ganddynt. Os nad ydych yn dymuno cael eich rhwymo gan y Telerau hyn, peidiwch â chofrestru, mynychu na chymryd rhan yn y Digwyddiadau.

Cofrestru ar ran rhywun arall

Os ydych yn cofrestru ar ran person arall, mae’n ddyletswydd arnoch i sicrhau bod y sawl sy’n mynychu yn ymwybodol o’r Telerau hyn ac yn eu derbyn. Trwy gwblhau a chyflwyno’r ffurflen gofrestru rydych yn mynegi ac yn gwarantu eich bod wedi gwneud y sawl sy’n mynychu’r digwyddiad yn ymwybodol o’r Telerau hyn a’u bod wedi derbyn y Telerau hyn.

Newidiadau yn y Telerau hyn

Mae’r Telerau hyn yn berthnasol i chi o’r dyddiad cyhoeddi a hyd nes y caiff y Telerau hyn eu disodli gan fersiwn newydd. Gallwn ddiweddaru’r Telerau hyn ar unrhyw adeg am resymau cyfreithiol neu reoleiddiol, neu i adlewyrchu newidiadau yn ein gwasanaethau neu arferion busnes. Bydd unrhyw Delerau diwygiedig yn cael eu gosod ar y wefan hon.

Cysylltu â ni

Rydym wedi gwneud ein gorau i esbonio pethau’n glir i chi yn y ddogfen hon, ond os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, rhowch wybod i ni.

Ein cyfeiriad ar gyfer cysylltu yw Technology Connected, Trade Street Desks, 14 Trade Street, Caerdydd, CF10 5DT

Am gwestiynau ynghylch cofrestru neu gymorth gydag unrhyw broblemau cofrestru, e-bostiwch walestechweek@technologyconnected.net

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon eraill gallwch gysylltu â ni trwy e-bostio: avril.lewis@technologyconnected.net

Telerau cyffredinol (Cynrychiolwyr a Mynychwyr)

1. Mynediad i Ddigwyddiadau

Rydym ni, yn ôl ein disgresiwn llwyr, a heb unrhyw rwymedigaeth neu oblygiadau i wneud ad-daliad, yn cadw’r hawl i wrthod mynediad i’r Digwyddiadau neu i ddiarddel unrhyw un y byddwn yn penderfynu sy’n:

Rydych yn cytuno i gydymffurfio â’r holl gyfreithiau perthnasol mewn cysylltiad â’ch presenoldeb neu gyfranogiad mewn Digwyddiadau.

2. Newidiadau neu ganslo Digwyddiad

Rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau bod rhaglenni’r Digwyddiad, ynghyd â siaradwyr, pynciau, lleoliadau a dyddiadau’n gywir ar adeg cyhoeddi. Fodd bynnag, gall amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth olygu bod angen gwneud newidiadau, gohirio, neu ganslo cynnwys, fformat, themâu, enw, perfformwyr, trefnwyr, cymedrolwyr, lleoliad, amseriadau, neu ddyddiadau Digwyddiad. 

Rydym yn cadw’r hawl i wneud hynny ar unrhyw adeg, ac ni fyddwn yn atebol i chi am unrhyw gostau y byddwch yn eu hwynebu o ganlyniad i hynny (gan gynnwys, heb gyfyngiad, teithio, llety a threuliau eraill).

Byddwn yn ymdrechu i roi gwybod i chi cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol am unrhyw amnewidiad, gohiriadau neu newidiadau trwy osod y wybodaeth ddiweddaraf ar www.walestechweek.com

Os caiff cynhadledd neu Ddigwyddiad Wythnos Dechnoleg Cymru eu gohirio, darperir tocynnau amnewid i’r rhai sy’n mynychu’r Digwyddiad(au) ar gyfer y dyddiad newydd a osodir. Ni ddarperir ad-daliadau am unrhyw ddigwyddiad a gaiff ei ohirio.

Mewn achos annhebygol o ganslo Digwyddiad, mae cyfanswm ein hatebolrwydd cyfanredol i chi wedi’i gyfyngu i ad-daliad ffioedd taledig sy’n weddill ar ôl i ffioedd cerdyn credyd a phrosesu taliadau gael eu didynnu, ac ni fyddwn yn atebol i chi am unrhyw wariant, difrod neu golled a achoswyd i chi yn sgil y penderfyniad i ganslo.

3. Ffotograffiaeth, recordio sain a fideo

Mae cyfyngiadau llym ar unrhyw ddefnydd o offer ffotograffig, sain, fideo neu offer recordio arall mewn Digwyddiad, oni bai bod hynny wedi’i gymeradwyo gennym ni yn ysgrifenedig ymlaen llaw.

Trwy fynychu Digwyddiadau Wythnos Dechnoleg Cymru rydych yn cydnabod ac yn cytuno y byddwn ni neu ein partneriaid efallai’n tynnu lluniau neu’n recordio rhannau o’r Digwyddiad. 

Rydych yn cytuno i ganiatáu i ni, neu unrhyw drydydd parti a drwyddedir gennym ni, ddefnyddio, dosbarthu, darlledu, neu fel arall ledaenu’n fyd-eang eich delwedd, enw, llais a geiriau am byth ar deledu, radio, ffilm, papurau newydd, cylchgronau a chyfryngau eraill sydd ar gael nawr a’r rhai a gaiff eu datblygu yn y dyfodol. Gallwn wneud hyn cyn, yn ystod ac unrhyw bryd ar ôl y Digwyddiad, ac mewn unrhyw ffurf, heb unrhyw gymeradwyaeth bellach gennych chi nac unrhyw daliad i chi. Mae’r cydsyniad hwn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i’r hawl i olygu’r cyfryngau, yr hawl i ddefnyddio’r cyfryngau (ar eu pen eu hunain neu ynghyd â gwybodaeth arall), a’r hawl i ganiatáu i eraill ddefnyddio neu ddosbarthu’r cyfryngau.

4. Eich presenoldeb mewn Digwyddiad

Chi sy’n gyfrifol am roi gwybod i ni ar adeg archebu lle am unrhyw ofynion mynediad arbennig sydd eu hangen arnoch yn y Digwyddiad.

Chi sy’n gyfrifol am drefnu eich yswiriant priodol eich hun mewn cysylltiad â’ch presenoldeb neu arddangosfa yn ein Digwyddiadau. Ni fyddwn ni na’n cwmni cysylltiedig yn atebol am unrhyw anaf neu ddifrod i unrhyw berson neu i unrhyw eiddo gwirioneddol neu bersonol sut bynnag y’i hachoswyd (ac eithrio marwolaeth neu anaf personol o ganlyniad i esgeulustod ar ein rhan ni neu am unrhyw fath arall o atebolrwydd na all yn ôl y gyfraith cael ei eithrio neu ei gyfyngu).

Yn ystod y Digwyddiad(au), bydd disgwyl i chi ymddwyn yn drefnus ac ni chaniateir i chi mewn unrhyw fodd beri tramgwydd, annifyrrwch neu anghyfleustra i’r Mynychwyr eraill. 

Ni fydd mynychwyr yn hyrwyddo, hysbysebu nac yn ceisio busnes mewn modd a ystyrir, yn ôl ein disgresiwn llwyr, yn annerbyniol. Rydym yn cadw’r hawl i ddiarddel o’r Digwyddiadau unrhyw fynychwr sydd, yn ein barn resymol ni, yn mynd yn groes i gyfreithiau neu reoliadau perthnasol neu ein polisïau a gweithdrefnau neu rai’r lleoliad y cynhelir y Digwyddiad ynddo, yn debygol o achosi tramgwydd neu annifyrrwch neu sydd fel arall yn ymddwyn yn amhriodol neu ddim yn cydymffurfio â’r telerau hyn.

5. Ad-daliadau a chanslo

Mae eich tocyn yn parhau i fod yn eiddo i ni ac mae’n drwydded bersonol y gellir ei dirymu, ac y gellir ei thynnu’n ôl. Gellir gwrthod mynediad i Ddigwyddiadau ar unrhyw adeg, a gwneir ad-daliad o’r pris cofrestru printiedig.

Os ydych yn gymwys o dan gyfraith berthnasol i fanteisio ar yr hawl i ganslo eich pryniant o docyn o fewn 14 diwrnod heb roi unrhyw reswm ac i dderbyn ad-daliad, mae angen i chi ein hysbysu yn ysgrifenedig o’ch penderfyniad i ganslo’ch tocyn o fewn 14 diwrnod o’r diwrnod y cwblhawyd y contract ar gyfer gwerthu o bell. Bydd yr ad-daliad yn cael ei wneud yn yr un ffurf ag y derbyniwyd y taliad gwreiddiol (er enghraifft, bydd taliad cerdyn credyd yn cael ei ad-dalu i’r un rhif cyfrif cerdyn credyd).

Nid oes modd gwneud ad-daliad ar gyfer unrhyw docynnau a brynir ar ôl diwedd y cyfnod ‘ailfeddwl’ hwn o 14 diwrnod. Rydych yn cydnabod bod pob ad-daliad yn amodol ar ddidynnu ffi trafodiad o £10 neu fel yr hysbysir yn wahanol). Weithiau mae ein cynlluniau hyrwyddo tocynnau’n cynnwys ffi prosesu. Ni ellir ad-dalu’r ffi brosesu hon yn ei chyfanrwydd.

6. Dim ailwerthu

Mae tocynnau Wythnos Dechnoleg Cymru rydych chi’n eu prynu at eich defnydd personol chi neu at ddefnydd eich busnes/sefydliad yn unig. Ni chaniateir ailwerthu tocynnau o dan unrhyw amgylchiadau, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’w defnyddio fel rhan o unrhyw gynllun hyrwyddo neu gystadleuaeth. 

Bydd ailwerthu neu drosglwyddo eich tocyn mewn ffordd arall, heb fod yn unol â’r Telerau, yn diddymu’r tocyn ac ni fydd deiliad y tocyn yn cael mynediad i’r Digwyddiad. Lle bu unrhyw ailwerthu neu ymgais i ailwerthu unrhyw docynnau (neu unrhyw achos arall o dorri amodau’r telerau hyn), rydym yn cadw’r hawl i ganslo’r tocynnau perthnasol ar unwaith.

Rydym yn cadw’r hawl i ganslo unrhyw docyn a brynwyd gan unrhyw berson neu gorff y credwn yn rhesymol ei fod yn gysylltiedig ag unrhyw ailwerthu tocynnau neu frocer tocynnau.

7. Ap Digwyddiad

Rhaid i chi gwblhau proffil ap Wythnos Dechnoleg Cymru unwaith y bydd hwn ar gael, a bydd eich proffil yn un y gellir ei ddarganfod a’i weld yn yr ap gan fynychwyr eraill y Digwyddiad. Trwy ddefnyddio’r ap rydych yn cytuno i delerau ac amodau’r wefan, ynghyd â’n polisi preifatrwydd. Bydd data personol yn cael ei storio a’i reoli fel y nodir yn y polisïau uchod. 

8. Gofynion fisa mynediad

Eich cyfrifoldeb chi yn unig yw gofalu am ofynion fisa mynediad y DU. Os oes angen fisa mynediad arnoch i fynychu, siarad neu arddangos yn y Digwyddiadau, rhaid i chi ganiatáu digon o amser ar gyfer y weithdrefn gwneud cais am fisa.

Os na fyddwch yn cael fisa, nid oes unrhyw rwymedigaeth arnom i ad-dalu’ch tocyn oni bai eich bod yn gymwys o dan y gyfraith berthnasol i fanteisio ar yr hawl i ganslo eich pryniant o docyn o fewn 14 diwrnod i’r diwrnod y cwblhawyd y contract ar gyfer gwerthu o bell.

9. Hawliau eiddo deallusol

Mae’r holl hawliau eiddo deallusol yng nghynhadledd Wythnos Dechnoleg Cymru, Digwyddiadau cysylltiedig, cynnwys, a’r holl ddeunyddiau a ddosberthir yn neu mewn cysylltiad â’r Digwyddiadau yn eiddo i ni, ein cwmnïau cysylltiedig, a/neu’r partneriaid, noddwyr neu siaradwyr sy’n mynychu’r Digwyddiadau . 

Rhaid i chi beidio ag atgynhyrchu na chaniatáu i unrhyw un atgynhyrchu nodau masnach neu ddeunyddiau a gaiff eu dosbarthu gennym ni neu ar ein rhan mewn Digwyddiad am unrhyw reswm, heb ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw.

Nid oes unrhyw beth yn y Telerau hyn yn rhoi unrhyw hawl gyfreithiol neu fanteisiol mewn unrhyw hawliau eiddo deallusol yr ydym ni neu ein cwmnïau cysylltiedig yn berchen arnynt neu’n eu defnyddio dan drwydded, nac yn rhoi i chi unrhyw hawl neu drwydded i unrhyw hawliau eiddo deallusol eraill sy’n perthyn i ni neu ein cwmnïau cysylltiedig. Bydd pob hawl eiddo deallusol o’r fath yn parhau i fod yn eiddo i ni a’n cwmnïau cysylltiedig yn unig.

Gwaherddir yn llwyr i unrhyw gwmni, sefydliad, neu berson geisio cynnal neu drefnu unrhyw ddigwyddiad ar y cyd ag Wythnos Dechnoleg Cymru, yn cydgyffwrdd neu sy’n honni ei fod yn gysylltiedig ag Wythnos Dechnoleg Cymru neu’r sefydliadau sy’n perthyn iddi, neu sy’n honni ei fod yn gysylltiedig ag Wythnos Dechnoleg Cymru neu’r sefydliadau sy’n perthyn iddi heb ganiatâd a chydweithrediad penodol gennym ni. Rydym yn cadw eu hawl i gymryd unrhyw gamau (cyfreithiol neu fel arall), gan gynnwys hawliad am iawndal yr ydym ni, yn ôl ein disgresiwn llwyr, yn ei ystyried yn briodol o dan yr amgylchiadau.

10. Defnydd Derbyniol

Wrth gyrchu a defnyddio unrhyw wefan, is-barth neu ap Wythnos Dechnoleg Cymru rydych wedi’ch gwahardd rhag:

Gallwn derfynu neu gyfyngu ar eich defnydd o’n Ap os byddwch yn torri’r Telerau hyn neu’n defnyddio’r Ap yn anghyfreithlon neu’n dwyllodrus.

11. Eich Cyfraniad a Negeseuon

Negeseuon

Mae’n bosibl y byddwn yn caniatáu i chi anfon negeseuon a chyfathrebiadau eraill atom ni neu at ddefnyddwyr eraill trwy’r wefan neu ap y Digwyddiadau (“Negeseuon”). Chi yn unig sy’n gyfrifol am eich Negeseuon a chanlyniadau eu hanfon, sy’n ein rhyddhau’n benodol ac yn cytuno i’n cadw’n ddiniwed, rhag pob atebolrwydd sy’n deillio o’ch Negeseuon. Rydych chi’n rhoi hawl fyd-eang i ni (ac rydym yn ei derbyn) i ddefnyddio, storio ac atgynhyrchu eich Negeseuon at y diben cyfyngedig o hwyluso eu hanfon at y derbynwyr o’ch dewis (a gallwn hefyd ddefnyddio darparwyr gwasanaeth trydydd parti i hwyluso anfon eich Negeseuon) . Rydych yn cynrychioli ac yn gwarantu na fydd eich Negeseuon yn tresmasu ar unrhyw hawl trydydd parti sydd gan eraill.

Eich Cyfraniad

Mae’n bosibl y byddwn yn caniatáu i chi rannu a chyhoeddi eich cynnwys i’r Digwyddiad(au) (fel gweithdai neu gyfraniadau cyhoeddus eraill i’r Digwyddiad) yn amodol ar y Telerau ac Amodau hyn a’n Polisi Preifatrwydd (“Eich Cyfraniad”) a’ch bod yn rhoi hawl na ellir ei gwrthdroi i ni, sy’n anghyfyngedig, di-freindal, gwastadol yn fyd-eang, i ddefnyddio Eich Cyfraniad mewn perthynas â’r Digwyddiadau. 

Rydych yn deall mai chi sy’n gyfrifol am Eich Cyfraniad ac y gallai fod ar gael i’r cyhoedd ac rydych Chi’n cytuno i ildio unrhyw hawliau moesol yn Eich Cyfraniad. Mae gennym ddisgresiwn i gyhoeddi Eich Cyfraniad ac rydym yn cadw’r hawl heb rybudd pellach i chi, i fonitro, sensro, golygu, a/neu ddileu unrhyw ran o’ch Cyfraniad, neu’r cyfan ohono, ar unrhyw adeg y credwn ei fod yn groes i’r Telerau Defnyddio hyn, ein Canllawiau ar gyfer Cynnwys a’n Polisi Gwrth-aflonyddu. 

Rydym yn cadw’r hawl i gyrchu, darllen, cadw a datgelu unrhyw Gyfraniad a wnewch neu unrhyw wybodaeth arall a gawn mewn cysylltiad â’r Digwyddiad(au) y credwn yn rhesymol sy’n angenrheidiol i: (i) bodloni unrhyw gyfraith, rheoliad, proses gyfreithiol neu gais gan y llywodraeth sy’n berthnasol; (ii) gorfodi’r Cytundeb hwn, gan gynnwys ymchwilio i achosion posibl o dorri’r Cytundeb; (iii) canfod, atal neu fynd i’r afael fel arall â thwyll, materion diogelwch neu dechnegol; (iv) ymateb i’ch ceisiadau cymorth defnyddiwr; neu (v) amddiffyn ein hawliau, eiddo neu ddiogelwch ni, ein defnyddwyr neu’r cyhoedd.

Ni chaniateir i chi gymryd rhan na cheisio cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd sy’n torri’r Telerau Defnyddio; mae hyn yn cynnwys:

12. Gwarantau

I’r graddau a ganiateir gan y gyfraith berthnasol, rydym yn ymwadu â phob gwarant neu amod, naill ai’n ddatganedig neu’n oblygedig, neu unrhyw ran ohonynt mewn perthynas ag unrhyw agwedd ar Ddigwyddiad neu unrhyw ddeunyddiau cysylltiedig. Rydych yn cydnabod ac yn cytuno, wrth dderbyn y Telerau hyn, nad ydych wedi dibynnu ar unrhyw fynegiant neu warant nad yw wedi’i gynnwys yn benodol yn y Telerau hyn, ac rydych yn cytuno na fydd gennych unrhyw fodd o unioni hyn mewn perthynas ag unrhyw gamliwio nad yw wedi dod yn rhan o’r Telerau hyn.

13. Cyfyngiadau ar Atebolrwydd

Rydych yn cydnabod ac yn cytuno mai eu barn hwy eu hunain a fynegir gan siaradwyr yn y Digwyddiad(au) neu mewn cysylltiad â hwy, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am unrhyw gyngor a roddir neu farn a fynegir yn ystod neu mewn cysylltiad â’r Digwyddiad(au).

Mae deunyddiau a rennir neu a ddosberthir yn y Digwyddiad(au) neu mewn cysylltiad â’r Digwyddiad(au) wedi’u bwriadu er gwybodaeth yn unig ac ni ddylech chi nac eraill ddibynnu arnynt. Nid ydym ni na’n cwmnïau cysylltiedig yn darparu unrhyw sicrwydd, amodau na gwarantau bod y deunyddiau’n gyflawn neu’n gywir, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am ddibyniaeth gennych chi nac unrhyw berson ar unrhyw agwedd ar y Digwyddiad(au) a/neu unrhyw wybodaeth a ddarperir yn y Digwyddiad.

I’r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith berthnasol:

(a) ni fyddwn ni na’n cwmnïau cysylltiedig yn atebol i chi boed hynny mewn contract, camwedd (gan gynnwys am esgeulustod), camliwio, adferiad neu fel arall am unrhyw golled o elw; colli gwerthiant neu fusnes; colli cytundebau neu gontractau; colli arbedion a ragwelir; colli incwm; colli cyfle; colli neu niweidio ewyllys da. Hefyd colli defnydd neu lygru meddalwedd, data neu wybodaeth; a/neu golledion tebyg neu golled economaidd pur, neu ar gyfer unrhyw golled anuniongyrchol neu ganlyniadol. Mae hyn yn cynnwys costau, iawndal, taliadau neu dreuliau sut bynnag y byddant yn codi o dan neu mewn cysylltiad â pherfformiad neu berfformiad arfaethedig y Telerau, hyd yn oed os ydym wedi cael gwybod am y posibilrwydd y gallai hynny ddigwydd ymlaen llaw; ac

(b) yn amodol ar baragraff (c) (isod), mae cyfanswm ein hatebolrwydd cyfanredol mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod), camliwio, adferiad neu fel arall, sy’n codi o dan neu mewn cysylltiad â chyflawni neu gyflawniad arfaethedig y Telerau yn gyfyngedig i’r cyfanswm a dalwyd gennych chi i ni am eich tocyn i gymryd rhan a chael mynediad i’r Digwyddiad(au), ar ôl talu unrhyw ffioedd prosesu neu daliadau banc sy’n berthnasol.

(c) Nid oes dim yn y Telerau hyn sy’n honni ei fod yn eithrio neu’n cyfyngu ar atebolrwydd am unrhyw ddatganiad neu weithred dwyllodrus neu mewn perthynas ag unrhyw atebolrwydd na ellir ei eithrio na’i gyfyngu o dan gyfraith berthnasol.

14. Indemniad

Mae’n bosibl na fydd y Digwyddiad(au) ar gael ar unrhyw adeg benodol oherwydd (a) toriadau i’r pŵer neu anawsterau’n ymwneud â’r gweinydd neu (b) cyfnodau diweddaru neu gynnal a chadw (c) o ganlyniad i ryfel, gweithredoedd gan Dduw, llifogydd, sychder, daeargryn neu drychineb naturiol arall; (ch) epidemig neu bandemig; (d) ymosodiad terfysgol, rhyfel cartref, cynnwrf neu derfysg sifil, rhyfel, bygwth neu baratoi ar gyfer rhyfel, gwrthdaro arfog, gosod sancsiynau, embargo, neu dorri cysylltiadau diplomyddol; (dd) halogiad niwclear, cemegol neu fiolegol neu daran sonig; (e) unrhyw gyfraith neu unrhyw gamau a gymerwyd gan lywodraeth neu awdurdod cyhoeddus; (f) adeiladau’n dymchwel, tân, ffrwydrad neu ddamwain; (ff) unrhyw anghydfod llafur neu fasnach, streiciau, gweithredu diwydiannol neu gloi allan; (g) diffyg perfformiad gan gyflenwyr neu isgontractwyr; (ng) ymyrraeth neu fethiant gwasanaeth cyfleustodau a/neu (h) methiant electronig neu gyfathrebu. Byddwn yn gwneud pob ymdrech resymol i roi rhybudd i chi ynghylch unrhyw beth sy’n tarfu ar y Digwyddiad(au). Lle nad yw’r Digwyddiad(au) ar gael am resymau y tu hwnt i’n rheolaeth, ni fydd gennym unrhyw atebolrwydd i chi.

Nid ydym yn atebol os caiff y Digwyddiad(au), neu ran ohonynt, eu canslo, eu haildrefnu neu eu gohirio, neu am unrhyw fethiant i gyflawni ein goblygiadau o dan y Telerau hyn, os yw digwyddiad o’r fath o ganlyniad i unrhyw beth sydd y tu hwnt i’n rheolaeth resymol, er enghraifft: (a) toriadau i’r pŵer neu anawsterau’n ymwneud â’r gweinydd neu (b) cyfnodau diweddaru neu gynnal a chadw (c) o ganlyniad i ryfel, gweithredoedd gan Dduw, llifogydd, sychder, daeargryn neu drychineb naturiol arall; (ch) epidemig neu bandemig; (d) ymosodiad terfysgol, rhyfel cartref, cynnwrf neu derfysg sifil, rhyfel, bygwth neu baratoi ar gyfer rhyfel, gwrthdaro arfog, gosod sancsiynau, embargo, neu dorri cysylltiadau diplomyddol; (dd) halogiad niwclear, cemegol neu fiolegol neu daran sonig; (e) unrhyw gyfraith neu unrhyw gamau a gymerwyd gan lywodraeth neu awdurdod cyhoeddus; (f) adeiladau yn dymchwel, tân, ffrwydrad neu ddamwain; (ff) unrhyw anghydfod llafur neu fasnach, streiciau, gweithredu diwydiannol neu gloi allan; (g) diffyg perfformiad gan gyflenwyr neu isgontractwyr;             (ng) ymyrraeth neu fethiant gwasanaeth cyfleustodau a/neu (h) methiant electronig neu gyfathrebu neu unrhyw beth arall sy’n golygu ei bod yn ymarferol amhosibl neu’n anghyfreithlon cynnal y Digwyddiad neu rannau ohono.

15. Force majeure

Nid ydym yn atebol os bydd unrhyw Ddigwyddiadau, neu rannau ohonynt, yn cael eu canslo, eu haildrefnu neu eu gohirio, neu am unrhyw fethiant neu oedi wrth gyflawni ein rhwymedigaethau o dan y Telerau hyn, os yw digwyddiad o’r fath yn deillio o unrhyw beth sydd y tu hwnt i’n rheolaeth resymol (er enghraifft, trychinebau naturiol, llifogydd, tân, terfysgaeth, rhyfel, streic lafur, difrod maleisus, tywydd eithafol, cydymffurfio ag unrhyw gyfraith neu orchymyn llywodraethol, neu fethiant neu ddirywiad mecanyddol, electronig neu gyfathrebu, neu unrhyw argyfwng arall) neu unrhyw beth arall sy’n gwneud cynnal y Digwyddiad, neu rannau ohono’n anymarferol, yn anghyfreithlon neu’n amhosibl.

16. Cyfraith ac awdurdodaeth berthnasol

Bydd y dehongliad, ffurfiant a gweithrediad hwn o’r Telerau a’r holl rwymedigaethau anghytundebol sy’n deillio ohonynt neu’n gysylltiedig â hwy yn cael eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Hefyd bydd pob anghydfod rhwng y partïon sy’n deillio o’r Telerau neu unrhyw anghydfod rhwng y partïon mewn unrhyw ffordd sy’n gysylltiedig â chynnwys y Telerau hyn (boed yn gytundebol neu’n anghytundebol) yn destun cyfreithiau Cymru a Lloegr.

Ni fydd unrhyw beth a gynhwysir yn y Telerau yn cyfyngu ar ein hawl i ddwyn achos gorfodi mewn awdurdodaeth arall neu i geisio rhyddhad cyfamserol, amddiffynnol neu dros-dro mewn llysoedd awdurdodaeth arall.

17. Telerau Tocyn Mynychwr

Tocynnau a phrisiau

Fe welwch fanylion prisiau tocynnau mynychwyr a ffioedd ar gyfer Digwyddiad(au) ar y dudalen docynnau. Mae prisiau tocynnau ar gyfer unrhyw Ddigwyddiad(au) yn gywir ar adeg cyhoeddi.

Rydym yn cadw’r hawl i newid prisiau tocynnau ar unrhyw adeg, ond ni fydd unrhyw newidiadau’n effeithio ar docynnau sydd eisoes wedi’u prynu.

Mae tocyn dilys yn rhoi’r hawl i chi gael mynediad i’r Digwyddiad perthnasol fel Mynychwr, ond nid yw’n cynnwys unrhyw ofynion sy’n gysylltiedig â theithio i’r Digwyddiad neu oddi yno nac unrhyw gostau llety yr eir iddynt, ac ni fyddwn yn atebol am gostau na threuliau o’r fath.

Dosbarthu tocynnau

Unwaith y bydd trafodiad am docynnau wedi’i gwblhau’n llwyddiannus, caiff y tocyn(nau) eu dosbarthu ar ffurf copi meddal digidol trwy e-bost i’r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd gan y Mynychwr. Ar gyfer rhai mathau o docynnau, efallai y bydd angen cwblhau’r wybodaeth ofynnol megis enw’r sefydliad neu rif adnabyddiaeth treth cyn y gellir cyflwyno’r tocynnau.

Mae’r tocyn yn gweithredu fel derbynneb ar gyfer y trafodiad, a gellir ei ddefnyddio i gael mynediad i’r Digwyddiad(au) a restrir ar y tocyn. 

Rhaid i bob tocyn gael ei aseinio i Fynychwr, a rhaid i holl fanylion Mynychwr fod yn gyflawn o fewn 30 diwrnod o dderbyn eich tocyn. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, mae hyn yn cynnwys enw, teitl swydd, enw’r cwmni a ffotograff ar ffurf llun pasbort. 

Gostyngiadau

O bryd i’w gilydd efallai y byddwn yn cynnig gostyngiadau ym mhris tocynnau i annog presenoldeb mewn Digwyddiadau. Nid oes rheidrwydd arnom i gynnig unrhyw ostyngiadau ar gyfer Digwyddiad penodol ac rydym yn cadw’r hawl i newid neu dynnu cynnig o’r fath yn ôl ar unrhyw adeg yn ôl ein disgresiwn llwyr.

Newid enwau ar docynnau

Os bydd Mynychwr yn canfod na all fynychu unrhyw Ddigwyddiad(au), rhaid iddynt roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl (a beth bynnag ddim hwyrach na 7 diwrnod cyn i’r Digwyddiad ddechrau) trwy anon e-bost i: stephanie.stephens@technologyconnected.net a gofyn am newid enw ar eu tocyn. Gallwn yn ôl ein disgresiwn llwyr ganiatáu’r newid enw. 

Anifeiliaid gwasanaeth

Sylwch na chaniateir anifeiliaid anwes nac unrhyw rai eraill, ac eithrio anifeiliaid gwasanaeth.

Cyfyngiad oedran

Rhaid i bawb sy’n mynychu sydd o dan 18 oed* fod yng nghwmni hebryngwr sy’n oedolyn i fynychu cynhadledd Wythnos Dechnoleg Cymru neu unrhyw Ddigwyddiadau cysylltiedig. Mae digwyddiadau ar fin-nos ar gyfer y rhai sydd dros 18 oed yn unig ym mhob amgylchiadau. Gall Mynychwyr ifanc fynychu’r Digwyddiad yn amodol ar y gofynion canlynol:

*16-17 oed

Rhaid iddynt fod wedi prynu Tocyn Ieuenctid a bod yng nghwmni hebryngwr sy’n oedolyn sydd hefyd â thocyn trwy gydol y Digwyddiad.

Telerau arddangoswyr

Arddangoswyr

Rydym yn cynnig lle yn Wythnos Dechnoleg Cymru i Arddangoswyr, gan gynnwys partneriaid a noddwyr perthnasol pan fo hynny wedi’i gynnwys yn eu pecyn, sy’n dymuno cael defnydd o leoliad yn y Digwyddiad a chynnal stondin lle gallant arddangos eu nwyddau neu wasanaethau i fynychwyr (“Arddangosiad”) ar amseroedd y cytunwyd arnynt, yn amodol ar y Telerau hyn.

Bydd y gofod a ddyrennir yn cynnwys Stondin wedi’i brandio a drefnir trwy ddarparydd stondinau dewisol Wythnos Dechnoleg Cymru. Os yw’r Arddangoswr yn dymuno defnyddio ei stondin ei hun, rhaid i ni gytuno ar hyn yn ysgrifenedig.

Caniateir i’r Arddangoswr gynnal busnes o’i Ofod Dynodedig yn unig, ac ni chaiff ganfasio, hyrwyddo, hysbysebu na cheisio am fusnes mewn unrhyw ardal arall o’r Digwyddiad heb ein caniatâd ysgrifenedig penodol ymlaen llaw.

Gwaherddir yr Arddangoswr rhag is-osod y Gofod heb ein caniatâd ysgrifenedig penodol ymlaen llaw. Os ac i’r graddau y caniateir i’r Arddangoswr isosod y Gofod, bydd yr Arddangoswr yn parhau i fod yn gyfrifol am y Gofod, a bydd yn atebol am unrhyw achos o dorri’r telerau hyn gan unrhyw barti y caiff y Gofod ei isosod iddo.

Ni chaiff yr Arddangoswr ganfasio, hyrwyddo, hysbysebu na cheisio am fusnes ar ran Trydydd Parti nad ydynt yn perthyn iddynt heb ein caniatâd ysgrifenedig penodol ymlaen llaw.

Bydd y modd mae’r Arddangoswr yn cynnal ei Arddangosiad yn y Digwyddiad yn cydymffurfio’n llawn â’r Telerau hyn.

Lleoliad yr arddangosion

Rydym yn cadw’r hawl yn ôl ein disgresiwn llwyr i adleoli’r Arddangosion a/neu ei gwneud yn ofynnol i’r Arddangoswr symud i ofod amgen o fewn y safle penodedig yn y Digwyddiad lle rydym yn ystyried ei fod yn angenrheidiol er lles gorau’r Digwyddiad neu fel y bo angen ar seiliau diogeledd, iechyd a diogelwch neu fel arall.

Safonau o ran cynnal a chadw

Rhaid i’r Arddangoswr gynnal a chadw’r tu mewn a thu tu allan ei stondin, yn ogystal â phob cyfarpar ac offer a osodir yn yr Arddangosiadau mewn cyflwr da, yn lân, yn drefnus a glanweithiol.

Gwastraff

Mae’r Arddangoswr yn gyfrifol am waredu’r holl gynnyrch gwastraff a sbwriel ac am fynd â’r holl sbwriel a gynhyrchir ganddo oddi ar y safle. Os bydd angen, bydd yr Arddangoswr yn darparu biniau sbwriel i’w defnyddio yn y Digwyddiad y mae’n rhaid i’r Arddangoswr eu symud o’r safle ar ddiwedd pob diwrnod. Mae’r Arddangoswr hefyd yn gyfrifol am lanhau’r byrddau a’r lloriau o bryd i’w gilydd yn ei ardal Arddangos a’r ardal gyfagos.

Mynediad

Rydym yn caniatáu i’r Arddangoswr weithredu’r Arddangosiad rhwng yr oriau a gyfathrebir o bryd i’w gilydd. Rhaid i’r Arddangoswr sicrhau, er boddhad llwyr i ni, bod yr holl Arddangosion a sbwriel yn cael eu datgymalu’n llwyr a’u symud oddi ar y safle bob diwrnod o’r Digwyddiad. Nid oes gan yr Arddangoswr hawl i ganiatáu i unrhyw un, ac eithrio ei weithwyr neu’r rhai sydd â busnes gyda’r Arddangoswr, gael mynediad i’r ardal Arddangos.

Iechyd a diogelwch a diogeledd

Rhaid i bob Arddangoswr ystyried iechyd a diogelwch wrth arddangos, yn enwedig os ydynt yn darparu unrhyw gynnyrch neu arddangosiadau ymarferol fel rhan o’u stondin. Ni ddylai gosod unrhyw finiau, ceblau, dodrefn ac eitemau eraill beri risg na rhwystro mynediad diogel i’r Stondin a/neu’r ardal gyfagos.

Rhaid i’r Arddangoswr nodi a chydymffurfio â’r holl gyfarwyddiadau a roddir gennym ni neu reolwyr y lleoliad, neu ar eu rhan, a sicrhau bod ei staff sy’n gweithio yn yr Arddangosiad yn cydymffurfio â hwy, ac â’n rheolau a’n rheoliadau ni a rheolwyr y lleoliad fel y’u cyfathrebir o bryd i’w gilydd. 

Rhaid i’r Arddangoswr beidio â difrodi na chaniatáu i’w weithwyr beri difrod i’r lleoliad sy’n cynnal y Digwyddiad, yr Arddangosiad, nac unrhyw ran ohono. Rhaid i holl weithwyr yr Arddangoswr ar y safle wisgo bathodynnau adnabod bob amser, ac ni ddylent fynd i mewn i unrhyw ardaloedd cyfyngedig.

Offer a ddarperir gennym ni

Mae pob offer (sgriniau, gliniaduron, ceblau ac offer electronig arall, ystafelloedd, dodrefn, a.y.b.) a gyflenwir gennym yn y Digwyddiad ar sail rhentu ac ni chaniateir cyfnewid, trosglwyddo nac ad-daliad ar gyfer eitemau a archebwyd ar y safle. Rhaid cyflwyno unrhyw gŵyn ynghylch eitemau neu osodiadau ar rent trwy gysylltu â ni cyn dechrau’r Digwyddiad. O ran eitemau sy’n cael eu llogi ar y diwrnod, dylid archwilio eitemau ar unwaith a’u profi i sicrhau eu bod yn gweithio. Fel arall, ystyrir bod yr holl eitemau wedi’u derbyn mewn cyflwr da.

Rhaid i arddangoswyr dalu am bob difrod neu golled o ran offer a gyflenwir iddynt. Rhaid i’r offer gael ei yswirio gan yr Arddangoswr, a fydd yn parhau i fod yn atebol nes bod ein staff awdurdodedig wedi casglu’r offer. Mewn achos o beidio â dychwelyd ofer o’r fath, bydd yn ofynnol i’r Arddangoswr ein had-dalu am gost lawn yr offer ar sail y gwerth yswiriant gwreiddiol.

Nid oes modd ad-dalu archebion a ganslwyd. Gellir cynnig eitemau nad ydynt yn rhan o’r pecyn arferol ar gais, yn amodol ar ddyfynbris ar wahân, ac maent yn destun yr un telerau.

Nid oes dim yn y Telerau hyn yn creu nac yn honni ei fod yn creu perthynas landlord a thenant rhyngom ni a’r Arddangoswr, ac ni ddylid ychwaith ddehongli’r Telerau hyn fel rhai sy’n creu trosglwyddiad o fuddiant mewn eiddo i’r Arddangoswr nac unrhyw fuddiant mwy yn y Digwyddiad o blaid yr Arddangoswr.

Yswiriant arddangoswr

Rhaid i bob Arddangoswr benodi cwmni yswiriant uchel ei barch a chynnal lefel yswiriant fel y’i nodir yn y Cytundeb Arddangoswr neu Bartneriaeth, ac ar gais rhaid iddo gyflwyno tystiolaeth i ni o’r polisi yswiriant cyfredol, ynghyd â derbynebau ar gyfer unrhyw bremiwm sy’n daladwy. Bydd methu â darparu tystiolaeth o’r fath i’n boddhad yn ein galluogi i derfynu’r Telerau hyn ar unwaith, ynghyd â’ch hawl i Arddangos yn y Digwyddiad.

Data Personol

Gall arddangoswyr gasglu a/neu dderbyn data personol mynychwyr yn y ffyrdd canlynol:

Lle mae Arddangoswr wedi cael data personol mynychwr yn uniongyrchol oddi wrth y mynychwr, bydd yr Arddangoswr (p’un a yw’n arddangos yn bersonol neu’n rhithwir, trwy’r ap) yn cadw at y canllawiau canlynol:

Ni fydd yr Arddangoswr o dan unrhyw amgylchiadau’n casglu nac yn prosesu unrhyw ddata personol sy’n ymwneud â mynychwyr o dan 18 oed, ac ni fydd Technology Connected yn datgelu data o’r fath i’r Arddangoswr,  

Bydd unrhyw ddata personol a ddarperir gan yr Arddangoswr i Technology Connected yn cael ei brosesu yn unol â pholisi preifatrwydd Technology Connected. 

Telerau Ychwanegol

Rydych hefyd yn destun y polisïau canlynol sy’n llywodraethu eich mynediad a’ch defnydd o’r Wefan, yr Ap a’r Digwyddiad:

Polisi Preifatrwydd

Polisi Cwcis

Côd Ymddygiad a Pholisi Gwrth-Aflonyddu

Atodlen 1

Diogelu Data – Data Personol Mynychwyr

1. Yn yr Atodlen 1 hon, diffinnir y termau hyn fel a ganlyn:

1.1 Data Personol Mynychwyr: data personol yn ymwneud â mynychwyr Wythnos Dechnoleg Cymru 2025. 

1.2 Deddfwriaeth Diogelu Data: yr holl ddeddfwriaeth diogelu data a phreifatrwydd berthnasol sydd mewn grym o bryd i’w gilydd yn y DU gan gynnwys GDPR y DU; Deddf Diogelu Data 2018 (DPA 2018) (a’r rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf honno). Hefyd Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig 2003 (OS 2003/2426) fel y’u diwygiwyd a’r holl ddeddfwriaethau a gofynion rheoleiddiol eraill sydd mewn grym o bryd i’w gilydd sy’n berthnasol i unigolyn sy’n ymwneud â’r defnydd o Ddata Personol. Mae hyn yn cynnwys, heb gyfyngiad, preifatrwydd cyfathrebiadau electronig, ynghyd â’r canllawiau a’r codau ymarfer a gyhoeddir gan y Comisiynydd Gwybodaeth neu awdurdod rheoleiddio perthnasol arall ac sy’n ymwneud   hwy. Diffinnir y termau Rheolydd, Prosesydd, Testun Data, Data Personol, Torri Data Personol, prosesu a mesurau technegol a threfniadol priodol yn ôl Deddfwriaeth Diogelu Data

1.3 GDPR y DU: mae i’r term hwn yr ystyr a roddir yn adran 3(10) (fel yr ategir gan adran 205(4)) o Ddeddf Diogelu Data 2018. 

2 Bydd y ddwy ochr yn cydymffurfio â holl ofynion perthnasol y Ddeddfwriaeth Diogelu Data. Mae’r Atodlen 1 hon yn ychwanegol at rwymedigaethau neu hawliau parti o dan y Ddeddfwriaeth Diogelu Data, ac nid yw’n rhyddhau, yn dileu nac yn disodli, rhwymedigaethau neu hawliau unrhyw barti. 

3 Mae’r naill ochr a’r llall yn cydnabod, at ddibenion y Ddeddfwriaeth Diogelu Data, mewn perthynas â Data Personol y Mynychwr, mai Technology Connected yw’r Rheolydd a’r Arddangoswr yw’r Prosesydd. Mae manylion cyfarwyddiadau prosesu’r Arddangoswr mewn perthynas â Data Personol y Mynychwr fel a ganlyn:

cwmpas, natur a phwrpas: at ddibenion anfon e-byst marchnata sy’n ymwneud â chynhyrchion a/neu wasanaethau’r Arddangoswr at y mynychwyr;

hyd y prosesu: cyhyd ag y bydd y mynychwr yn cydsynio i dderbyn yr e-byst marchnata gan yr Arddangoswr; 

math o Ddata Personol: enw, cyfeiriad e-bost a theitl swydd; a 

categorïau o Destun Data: mynychwyr Wythnos Dechnoleg Cymru 2025. 

4 Heb or-ddibyniaeth ar gyffredinolrwydd cymal 2, bydd yr Arddangoswr, mewn perthynas ag unrhyw Ddata Personol Mynychwr a brosesir mewn cysylltiad â’r cytundeb hwn yn: 

4.1 prosesu Data Personol y Mynychwr yn unol â chyfarwyddiadau ysgrifenedig dogfenedig Technology Connected yn unig, oni bai ei bod yn ofynnol i’r Arddangoswr yn ôl y gyfraith berthnasol brosesu Data Personol y Mynychwr hwnnw fel arall. Lle mae’r Arddangoswr yn dibynnu ar gyfreithiau perthnasol fel sail ar gyfer prosesu Data Personol Mynychwr, bydd yr Arddangoswr yn hysbysu Technology Connected o hyn yn brydlon cyn cyflawni’r prosesu sy’n ofynnol gan gyfreithiau perthnasol, oni bai bod y deddfau perthnasol yn gwahardd yr Arddangoswr rhag hysbysu Technology Connected;

4.2 sicrhau bod ganddo fesurau technegol a threfniadol priodol ar waith i amddiffyn rhag prosesu Data Personol Mynychwr heb awdurdod neu’n anghyfreithlon ac yn erbyn colli, dinistrio neu ddifrodi’n ddamweiniol Data Personol y Mynychwr, sy’n briodol i’r niwed a allai ddeillio o’r data’n cael ei brosesu heb awdurdod neu’n anghyfreithlon, neu ei golli, ei ddinistrio neu ei ddifrodi’n ddamweiniol a natur y data sydd i’w ddiogelu. Gwneir hyn gan ystyried cyflwr datblygiad technolegol a chost gweithredu unrhyw fesurau (gall y mesurau hynny gynnwys, lle bo’n briodol, darparu ffugenw ac amgryptio Data Personol Mynychwr, gan sicrhau cyfrinachedd, cywirdeb, argaeledd a gwytnwch systemau a gwasanaethau, gan sicrhau y gellir adfer argaeledd a mynediad at Ddata Personol Mynychwr yn amserol ar ôl digwyddiad, ac asesu a gwerthuso effeithiolrwydd y mesurau technegol a threfniadol a fabwysiadwyd ganddo’n rheolaidd); 

4.3 sicrhau bod yr holl bersonél sydd â mynediad at Ddata Personol Mynychwyr neu sydd yn ei brosesu’n gorfod cadw Data Personol y Mynychwr yn gyfrinachol; 

4.4 peidio â throsglwyddo unrhyw Ddata Personol Mynychwr y tu allan i’r DU oni bai y cafwyd caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Technology Connected a bod yr amodau a ganlyn yn cael eu bodloni:

(i) bod Technology Connected neu’r Arddangoswr wedi darparu mesurau diogelu priodol mewn perthynas â’r trosglwyddiad;

(ii) bod gan Destun y Data hawliau y gellir eu gorfodi a mynediad at ddatrysiadau cyfreithiol effeithiol;

(iii) bod yr Arddangoswr yn cydymffurfio â’i rwymedigaethau o dan y Ddeddfwriaeth Diogelu Data trwy ddarparu lefel ddigonol o amddiffyniad i unrhyw Ddata Personol Mynychwr a drosglwyddir; a

(iv) bod yr Arddangoswr yn cydymffurfio â chyfarwyddiadau rhesymol a hysbyswyd iddo ymlaen llaw gan Technology Connected mewn perthynas â phrosesu Data Personol y Mynychwr;

4.5 cynorthwyo Technology Connected, wrth ymateb i unrhyw gais gan Destun Data ac i sicrhau cydymffurfiaeth â’i rwymedigaethau o dan y Ddeddfwriaeth Diogelu Data mewn perthynas â diogelwch, hysbysiadau ynghylch torri amodau, asesiadau effaith ac ymgynghoriadau ag awdurdodau goruchwylio neu reoleiddwyr;

4.6 hysbysu Technology Connected heb oedi gormodol wrth ddod yn ymwybodol o Dor Data Personol;

4.7 peidio â phenodi unrhyw brosesydd trydydd parti heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Technology Connected; 

4.8 ar gyfarwyddyd ysgrifenedig Technology Connected, dileu neu ddychwelyd Data Personol y Mynychwr a chopïau ohono i Technology Connected oni bai bod y gyfraith berthnasol yn ei gwneud yn ofynnol i storio Data Personol y Mynychwr; 

4.9 sicrhau bod pob e-bost marchnata’n cynnwys y cyfle i’r mynychwr optio allan o dderbyn e-byst marchnata yn y dyfodol a lle mae mynychwr yn optio allan, bydd yr Arddangoswr yn hysbysu Technology Connected yn brydlon ac ni fydd yn anfon unrhyw e-byst marchnata pellach at y mynychwr perthnasol; a

4.10 cadw cofnodion a gwybodaeth gyflawn a chywir i ddangos ei fod yn cydymffurfio â’r Atodlen 1 hon a chaniatáu ar gyfer archwiliadau gan Technology Connected neu archwilydd dynodedig Technology Connected a hysbysu Technology Connected ar unwaith os yw cyfarwyddyd, ym marn yr Arddangoswr, yn mynd yn groes i Ddeddfwriaeth Diogelu Data.