Cyswllt
Cydweithio
Busnes
24-26 Tachwedd 2025
Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, Casnewydd
Wythnos Dechnoleg Cymru, sy’n cael ei phweru gan Technology Connected, yw uwchgynhadledd dechnoleg ryngwladol fwyaf Cymru. Mae’n arddangos technoleg Cymru, ei hecosystem ac yn hyrwyddo’r diwydiant ar lwyfan byd-eang.
Mae’r uwchgynhadledd dechnoleg ryngwladol yn cynnig y gorau o ddau fyd – gan gyfuno buddion technoleg â grym pobl, eu rhyngweithio, afiaith a dyfeisgarwch. Mae Wythnos Dechnoleg Cymru yn cysylltu, yn hyrwyddo ac yn datblygu Cymru fel canolfan arbenigedd a chyfle ar gyfer technolegau galluogi a thechnolegau newydd, a’u cymwysiadau ar gyfer busnes a chymdeithas heddiw.
Mae’n amlygu rôl hanfodol mabwysiadu technoleg er mwyn i sefydliadau ar draws pob sector arloesi a ffynnu ym myd yfory. Gan dynnu sylw at y cyfleoedd diddiwedd o fewn technoleg, arloesi a chydweithio, mae Wythnos Dechnoleg Cymru yn fagnet ar gyfer ymgysylltu byd-eang, buddsoddiad a thalent.
Rhyngwladol
Clystyrau
Cyfle
Arloesedd
Buddsoddiad
Cydweithio
Talent
Ar y diwrnod olaf, bydd Talent4Tech, digwyddiad gyrfa technolegol gorau Cymru, yn cysylltu talent newydd â’r cysylltiadau, y cyfleoedd a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i gynllunio, cychwyn a llwyddo mewn gyrfa dechnolegol yng Nghymru.
Hefyd, yn newydd ar gyfer 2025, bydd 10fed Gwobrau Technoleg Blynyddol Cymru yn ddiweddglo mawr, yn dathlu’r unigolion a’r busnesau rhagorol sy’n llywio dyfodol diwydiant technoleg Cymru.