-459Days -14Hours -3Mins -1Secs


Côd Ymddygiad a Pholisi Gwrth-Aflonyddu ar gyfer y Digwyddiad

Mae Wythnos Dechnoleg Cymru wedi ymrwymo i ddarparu profiad cynhwysol sy’n rhydd o aflonyddu i bawb, waeth beth fo’u hunaniaeth a mynegiant o ran rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, anableddau, niwroamrywiaeth, ymddangosiad corfforol, maint y corff, ethnigrwydd, cenedligrwydd, hil, oedran, crefydd, neu gategori arall a ddiogelir. 

Nid ydym yn goddef aflonyddu o unrhyw fath ar gyfranogwyr yn y Digwyddiad. Mae Wythnos Dechnoleg Cymru yn cymryd achosion o dorri ein polisi o ddifri a bydd yn ymateb yn briodol.

Rhaid i bawb sy’n cymryd rhan yn nigwyddiadau Wythnos Dechnoleg Cymru gadw at y polisi canlynol:

  1. Triniwch eraill fel yr hoffech chi gael eich trin. Rydym am i’r digwyddiad fod yn brofiad rhagorol i bawb, waeth beth fo’u hunaniaeth a mynegiant o ran rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, anableddau, niwroamrywiaeth, ymddangosiad corfforol, maint y corff, ethnigrwydd, cenedligrwydd, hil, oedran, crefydd, neu gategori arall a ddiogelir. Triniwch bawb â pharch. Cyfranogwch gan gydnabod bod pawb yn haeddu bod yma – ac mae gan bob un ohonom yr hawl i fwynhau ein profiad heb ofni aflonyddu, camwahaniaethu nag ymddygiad nawddoglyd, boed hynny’n amlwg neu trwy ficro-ymosodedd. Ni ddylai jôcs fychanu eraill. Ystyriwch yr hyn yr ydych yn ei ddweud a sut y byddai’n teimlo pe bai’n cael ei ddweud wrthych chi, neu amdanoch chi.
  1. Rhowch wybod i ni os ydych chi’n gweld neu’n clywed rhywbeth. Ni oddefir aflonyddu, ac mae gennych yr hawl i godi’r mater yn gwrtais pan fyddwch chi neu eraill yn cael eich amharchu. Efallai na fydd y person sy’n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus yn ymwybodol o’r hyn y maen nhw’n ei wneud, a byddem yn eich annog i dynnu sylw at eu hymddygiad yn gwrtais. Os yw cyfranogwr yn eich aflonyddu neu’n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus, gall trefnwyr y digwyddiad gymryd unrhyw gamau sy’n briodol yn eu barn nhw, gan gynnwys rhybuddio neu ddiarddel y tramgwyddwr o’r digwyddiad heb unrhyw ad-daliad. Os ydych yn cael eich aflonyddu neu’n teimlo’n anghyfforddus, yn sylwi bod rhywun arall yn cael ei aflonyddu, neu os oes gennych chi unrhyw bryderon eraill, cysylltwch ag aelod o staff y digwyddiad ar unwaith.
  1. Ni oddefir aflonyddu. Mae aflonyddu’n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: iaith eiriol sy’n atgyfnerthu strwythurau cymdeithasol sy’n ymwneud â hunaniaeth a mynegiant o ran rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, anableddau, niwroamrywiaeth, ymddangosiad corfforol, maint y corff, ethnigrwydd, cenedligrwydd, hil, oedran, crefydd, neu gategori arall a warchodir. Hefyd delweddau rhywiol mewn mannau cyhoeddus; bygythiad bwriadol; stelcian; dilyn; aflonyddu ar ffurf tynnu lluniau neu recordio; tarfu parhaus ar sgyrsiau neu ddigwyddiadau eraill; iaith eiriol sarhaus; cyffyrddiad corfforol amhriodol; a sylw rhywiol digroeso. Disgwylir i gyfranogwyr y gofynnir iddynt roi’r gorau i unrhyw ymddygiad sy’n aflonyddu eraill gydymffurfio ar unwaith.

Mae’r polisi hwn yn ymestyn i bob agwedd ar Wythnos Dechnoleg Cymru a’i Digwyddiadau: Prif areithiau, sesiynau, sgyrsiau, fforymau, gweithdai, cyfryngau cymdeithasol, sgyrsiau cyntedd, pawb sy’n bresennol, partneriaid, noddwyr, staff y digwyddiad, a.y.b. 

Mae Wythnos Dechnoleg Cymru yn cadw’r hawl i wrthod mynediad, neu wahardd, unrhyw berson o unrhyw gynhadledd neu ddigwyddiadau cysylltiedig ar unrhyw adeg yn ôl ei disgresiwn llwyr. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, fynychwyr yn ymddwyn mewn modd afreolus neu’n methu â chydymffurfio â’r polisi hwn, ynghyd â’r telerau ac amodau sydd ynddo. Os yw cyfranogwr yn ymddwyn mewn ffordd sy’n eich aflonyddu neu’n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus, gall trefnwyr y digwyddiad gymryd unrhyw gamau sy’n briodol yn eu barn nhw, gan gynnwys rhybuddio neu wahardd y tramgwyddwr o’r digwyddiad heb unrhyw ad-daliad.

Fel arfer gellir adnabod staff yn ein digwyddiadau yn ôl eu bathodynnau/gwisgoedd arbennig. Mae ein polisi dim goddefgarwch yn golygu y byddwn yn ymchwilio ac yn adolygu pob honiad o dorri ein Côd Ymddygiad a Pholisi Gwrth-aflonyddu ar gyfer y Digwyddiad, ac yn ymateb yn briodol. 

Sylwch, er ein bod yn cymryd yr holl bryderon a godir o ddifri, byddwn yn defnyddio ein disgresiwn i benderfynu pryd a sut y byddwn yn ymateb i ddigwyddiadau sydd wedi cael eu dwyn i’n sylw, a gallwn benderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau pellach a/neu efallai y byddwn yn cyfeirio’r cyfranogwr at adnoddau eraill i gael datrysiad.

Bydd staff y digwyddiad yn hapus i helpu cyfranogwyr i gysylltu â staff diogelwch y gwesty/lleoliad neu’r heddlu lleol. Gallwn hefyd ddarparu hebryngwyr, neu fel arall helpu’r rhai sydd wedi cael eu gwneud i deimlo’n anghyfforddus neu wedi’u haflonyddu i deimlo’n ddiogel yn ystod gweddill y digwyddiad. Rydym yn gwerthfawrogi eich presenoldeb.

Mae arddangoswyr, partneriaid, noddwyr, siaradwyr, a chyfranogwyr eraill hefyd yn destun y polisi hwn. Bydd cyfranogwyr sy’n gweithredu’n groes i’r polisi hwn yn cael eu hysbysu, a disgwylir iddynt roi’r gorau i unrhyw ymddygiad sy’n tramgwyddo ar unwaith.

Pam fod y polisi hwn yn bwysig

Yn anffodus, mae aflonyddu mewn digwyddiadau ac mewn cymunedau ar-lein yn gyffredin. Nod creu polisi swyddogol yw gwella hyn trwy ei gwneud yn glir nad yw aflonyddu ar unigolion am unrhyw reswm yn dderbyniol o fewn ein digwyddiadau a’n cymunedau. Gall y polisi hwn atal aflonyddu trwy ddiffinio disgwyliadau ymddygiad yn glir; ei nod yw darparu sicrwydd, ac annog pobl sydd wedi cael profiadau gwael mewn digwyddiadau eraill i gymryd rhan yn yr un yma.