-459Days -11Hours -14Mins -17Secs

1. Rhagarweiniad a Chwmpas

Dyma’r Polisi Preifatrwydd ar gyfer digwyddiad Wythnos Dechnoleg Cymru Technology Connected a gwefannau cysylltiedig, apiau, a chofrestru. Mae’r polisi hwn yn nodi ar ba sail y bydd unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn gennych chi, neu y byddwch yn ei darparu i ni, yn cael ei phrosesu gennym ni. Darllenwch y polisi canlynol yn ofalus; mae’n esbonio’r mathau o wybodaeth sy’n cael eu casglu a’u creu mewn cysylltiad â digwyddiad Wythnos Dechnoleg Cymru, sut a pham rydym yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir, â phwy rydym yn ei rhannu, a’ch hawliau cyfreithiol.

Cyhoeddir y Polisi Preifatrwydd hwn ar ran ESTnet Cyf. sy’n masnachu fel Technology Connected ar gyfer uwchgynhadledd Wythnos Dechnoleg Cymru a digwyddiadau cysylltiedig. Pan fyddwn yn cyfeirio at “Ni” neu “Ein” yn y Polisi Preifatrwydd hwn, rydym yn cyfeirio at enw digwyddiad/masnachu perthnasol ESTnet Cyf. sy’n gyfrifol am brosesu eich data.

Mae Wythnos Dechnoleg Cymru yn gynhadledd a digwyddiad rhwydweithio ar gyfer y gymuned dechnoleg a’r ecosystem ategol gysylltiedig. Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol. 

Oni nodir yn wahanol, mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn ymwneud â’n defnydd o unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn neu a ddefnyddiwn mewn perthynas â’r gwasanaethau canlynol (y cyfeirir atynt ar y cyd fel y “Gwasanaethau”):

Ar gyfer deddfau diogelu data’r DU a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR), y rheolydd data ar gyfer Wythnos Dechnoleg Cymru yw ESTnet Cyf. Mae eu swyddfa gofrestredig yn Trade Street Desk, 14 Trade Street, Caerdydd, CF10 5DT.

1.1 Egwyddorion Diogelu Data

Ni ddylem brosesu eich data oni bai bod gennym sail gyfreithiol i wneud hynny. Mae hyn yn golygu bod rhaid i wybodaeth bersonol:-

2. Gwybodaeth a gasglwn

Pan fyddwn yn darparu’r Gwasanaethau, rydym yn casglu ac yn derbyn gwybodaeth mewn sawl ffordd wahanol. Mewn llawer o achosion, chi sy’n dewis pa wybodaeth i’w darparu, er bod angen rhywfaint o wybodaeth i ni ddarparu’r Gwasanaethau i chi.

Yn uniongyrchol gennych chi a gan unrhyw drydydd parti cymeradwy.

Rydym yn casglu amrywiaeth o wybodaeth oddi wrthych pan fyddwch yn ei darparu i ni’n uniongyrchol, pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth o’r fath gennych chi, neu pan fyddwch yn rhoi caniatâd i ni gael gwybodaeth gan ffynhonnell trydydd parti.

Gwybodaeth cofrestru mynychwyr

Pan fyddwch chi’n cofrestru i fynychu’r Digwyddiad, rhaid i chi roi gwybodaeth sylfaenol i ni fel eich enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, cenedligrwydd, enw’r cwmni, teitl swydd a lleoliad. Rydym hefyd yn rhoi’r opsiwn i chi ddarparu gwybodaeth ychwanegol (a allai gynnwys Data Categori Arbennig (gweler isod).

Mae hefyd yn bosibl y byddwn yn casglu data personol arall fel eich ffotograff, recordiad(au) fideo neu recordiad(au) llais tra byddwch yn y Digwyddiad. 

Ymatebion i arolwg y digwyddiad
Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi gymryd rhan mewn arolygon dewisol ynghylch eich profiad yn y Digwyddiad er mwyn ein helpu i wella’r digwyddiad ac at ddibenion masnachol cysylltiedig.

Rydym yn defnyddio meddalwedd ar gyfer anfon negeseuon at gwsmeriaid sy’n mynychu, fel y gallwn ddarparu gwasanaethau cwsmeriaid ac ymateb i unrhyw ymholiadau neu gwynion a’u datrys.

Data Categori Arbennig

Mae data categori arbennig yn ddata personol sydd angen mwy o ddiogelwch oherwydd ei fod yn sensitif. Gall gynnwys data personol sy’n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig unigolyn, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu debyg, aelodaeth o undeb llafur, cyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol; gall ymwneud â bywyd rhywiol, cyfeiriadedd rhywiol, data biometrig neu enetig unigolyn (“Data Categori Arbennig”).

Pan fyddwch yn cofrestru i fynychu’r Digwyddiad neu i ddefnyddio unrhyw un o’n Gwasanaethau, gallwch ein darparu â Data Categori Arbennig, megis eich rhywedd, tarddiad hiliol neu ethnig. Dim ond os oes gennym sail gyfreithlon dros wneud hynny fel y nodir yng nghymal 5 a bod gennym eich caniatâd penodol y byddwn yn prosesu’r Data Categori Arbennig hwn. Gofynnir am eich cydsyniad wrth gofrestru; fodd bynnag, nid oes rheidrwydd arnoch i ddarparu’r wybodaeth hon. Os byddwch yn rhoi unrhyw Ddata Categori Arbennig i ni, mae gennych yr hawl i dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw bryd trwy gysylltu â ni (gweler ein manylion cyswllt isod). 

O’ch porwr neu ddyfais

Rydym yn casglu gwybodaeth benodol yn awtomatig o’ch porwr neu ddyfais pan fyddwch yn defnyddio rhai Gwasanaethau neu’n darllen neges gennym ni.

Er enghraifft, rydym yn casglu:

Cyfranogiad gan fusnesau newydd, buddsoddwr, siaradwr, arddangoswr a phartneriaid

Os byddwch yn dewis cymryd rhan yn Wythnos Dechnoleg Cymru fel cwmni newydd, buddsoddwr, arddangoswr, partner neu siaradwr, byddwch yn rhannu gwybodaeth gan gynnwys eich enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, teitl swydd ac unrhyw wybodaeth arall sydd ei hangen i adolygu ac i gysylltu â chi.

3. Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth i ddarparu, gweithredu, gwella, deall, addasu, cefnogi a marchnata ein Gwasanaethau. Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth sydd gennym amdanoch yn y ffyrdd canlynol:

Byddwn ond yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol at y diben(ion) y gwnaethom ei chasglu, oni bai ein bod yn ystyried yn rhesymol bod angen i ni ei defnyddio am reswm arall, a bod y rheswm hwnnw’n gydnaws â’r diben gwreiddiol. Os bydd angen i ni ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol at ddiben nad yw’n gysylltiedig, byddwn yn rhoi gwybod i chi a byddwn yn esbonio’r sail gyfreithiol sy’n caniatáu i ni wneud hynny.

Sylwch y gallwn brosesu eich gwybodaeth bersonol heb yn wybod i chi neu heb eich cydsyniad, yn unol â’r rheolau uchod, neu lle mae hyn yn ofynnol neu’n cael ei ganiatáu gan y gyfraith.

Cyfathrebu â chi

Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i gysylltu â chi ynghylch eich cofrestriad, i roi gwybod i chi am unrhyw newidiadau i’n polisïau a’n harferion, at ddibenion masnachol, gwerthu neu fuddsoddi, ac i ymateb i unrhyw geisiadau neu adborth a gyflwynwch i ni. 

Marchnata

Os byddwch yn optio i mewn i dderbyn cyfathrebiadau marchnata gennym ni, byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol ar gyfer allgymorth a marchnata, megis i anfon gwybodaeth atoch am ein digwyddiadau yn y dyfodol ac i arddangos cwmnïau a phartneriaid sy’n mynychu. Mae’n bosibl y byddwn yn casglu gwybodaeth o’r cyfathrebiadau hyn i wella ein Gwasanaethau ac ar gyfer hyfforddi a datblygu ein staff.

Gallwch optio allan o’r cyfathrebiadau hyn trwy ddefnyddio’r dolenni dad-danysgrifio yn ein cyfathrebiadau neu trwy anfon e-bost atom gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod. Sylwch y byddwch efallai’n parhau i dderbyn cyfathrebiadau am gyfnod byr ar ôl newid eich dewisiadau tra bod ein systemau’n cael eu diweddaru’n llawn.

Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn defnyddio’ch gwybodaeth er mwyn marchnata’r Digwyddiad a/neu’r Gwasanaethau. Er enghraifft, weithiau byddwn yn defnyddio’ch delwedd yn ein rhestr gyhoeddedig o’r rhai sy’n mynychu’r Digwyddiad neu eich postiadau ar gyfryngau cymdeithasol cyhoeddus i hyrwyddo’r Digwyddiad. Os ydych am wrthwynebu’r defnydd hwn, cysylltwch â ni trwy’r manylion cyswllt ar waelod y dudalen hon.

Cwcis a Thagiau Gwe

Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio gwybodaeth o dagiau a chwcis a gasglwyd o’ch defnydd o’n gwefan ac ap i dargedu eich gweithgaredd ar-lein, porwr neu apiau, gyda hysbysebion penodol. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio’r teclynau hyn i bennu poblogrwydd deunydd neu hysbysebion penodol ar ein gwefan. I weld ein polisi cwcis, cliciwch yma. 

Olrhain a Hysbysebu gan Drydydd Parti

Efallai y byddwn yn defnyddio offer trydydd parti ar gyfer proffilio ac ail-farchnata, megis Facebook Advertising, Facebook Pixel Remarketing, LinkedIn Insight Tag, a Google Ads. Mae’r teclynau hyn yn ein galluogi i ddeall a lledaenu hysbysebion a’u gwneud yn fwy perthnasol i chi. Mae’r data a gesglir yn parhau i fod yn ddienw heb ddata personol yn gysylltiedig â’r defnyddwyr unigol.

Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i allu dangos hysbysebion i chi ar wefannau eraill. Mae croeso i chi hefyd adolygu ein polisi cwcis ar gyfer eich opsiynau i reoli sut rydym yn defnyddio cwcis a thechnolegau tebyg ar gyfer hysbysebu.

4. Rhannu Data gyda Phartneriaid y Digwyddiad

Fel rhan o Wythnos Dechnoleg Cymru, mae’n bosibl y caiff eich data ei rannu â Phartneriaid y Digwyddiad a/neu arddangoswyr yn y Digwyddiad, ond dim ond os byddwch yn optio i mewn yn benodol yn ystod y broses gofrestru. Mae hyn yn sicrhau bod gennym eich caniatâd i rannu eich gwybodaeth.

Sut y Gall Partneriaid a/neu Arddangoswyr Ddefnyddio Eich Data

Manylion Defnydd Data

Rydych chi’n cadw rheolaeth lawn ar eich data:

5. Sail gyfreithiol am brosesu eich gwybodaeth

Mae GDPR y DU a chyfraith diogelu data’r DU yn gosod y sail gyfreithiol gyfreithlon (neu ‘amodau’) sy’n caniatáu i ni gasglu, cadw a defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Rydym yn dibynnu ar sawl sail i brosesu eich gwybodaeth bersonol yn gyfreithlon at y dibenion a ddisgrifir yn y Polisi Preifatrwydd hwn. 

Rydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol:

6. Ein buddiannau cyfreithlon

Fel y nodir uchod, mewn rhai achosion rydym yn defnyddio eich gwybodaeth lle bo angen i warchod ein buddiannau cyfreithlon chi ac eraill, gan gynnwys lle bo angen i wneud y canlynol:

Cadw’r Gwasanaethau’n ddiogel

Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth fel sy’n angenrheidiol i warchod ein buddiannau cyfreithlon, neu rai ein mynychwyr, ein gwirfoddolwyr neu ein partneriaid i sicrhau bod y Digwyddiad yn ddigwyddiad diogel, megis gorfodi ein contract gyda chi. Rydym hefyd yn gweithredu er budd cyfreithlon y partïon hyn o ran gwefan, ap a Gwasanaethau eraill ein Digwyddiad, megis trwy weithredu a gwella mesurau diogelwch ac amddiffyniadau, yn ogystal â diogelu rhag twyll, sbam a chamdriniaeth.

Darparu, datblygu a gwella’r Gwasanaethau

Rydym yn prosesu eich gwybodaeth yn ôl yr angen er mwyn gwarchod ein buddiannau cyfreithlon wrth wella’r Digwyddiad a’n Gwasanaethau eraill, megis ein gwefannau ac apiau’r Digwyddiad. Er enghraifft, rydym yn defnyddio eich gwybodaeth er mwyn rheoli mynediad a gorfodi diogelwch yn y Digwyddiad. Rydym hefyd yn defnyddio eich gwybodaeth i gynnal dadansoddiadau data a dadansoddeg ar draws ein Gwasanaethau. Mewn rhai achosion, a lle nad ydych wedi gwrthwynebu, mae’n bosibl y byddwn yn recordio galwadau gwerthu ac eraill a wneir i chi ar gyfer ein buddiannau busnes fel rhan o hyfforddiant a datblygiad ein staff.

Marchnata’r Gwasanaethau

Rydym yn prosesu eich gwybodaeth yn unol â’n buddiannau cyfreithlon o farchnata’r Digwyddiad a’r Gwasanaethau i chi. Er enghraifft, rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth i farchnata Digwyddiadau yn y dyfodol i chi ac i arddangos cwmnïau fydd yn eu mynychu. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio eich delwedd yn ein deunyddiau marchnata er mwyn tynnu sylw at y mynychwyr sy’n cymryd rhan yn ein Digwyddiad. Rydym hefyd yn defnyddio ffotograffau a deunydd clyweledol o ddigwyddiadau yn y gorffennol a all gynnwys eich delwedd neu lais. Os ydych am arfer eich hawl i wrthwynebu’r defnydd hwn, cysylltwch â ni trwy’r manylion cyswllt ar waelod y dudalen hon.

Darparu Gwasanaethau di-dor gyda brandiau Technology Connected a chwmnïau sy’n gysylltiedig â ni

Efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth bersonol ymhlith ein rhiant-gwmni, is-gwmnïau, neu gwmnïau cysylltiedig at ddibenion busnes mewnol ac i ddarparu Gwasanaethau i chi yn unol â’n contract gyda chi a’r Polisi Preifatrwydd hwn. Os byddwn yn rhannu eich gwybodaeth, byddwn yn sicrhau bod eich gwybodaeth yn parhau i gael ei defnyddio yn unol â’r Polisi Preifatrwydd hwn a’r dewisiadau a fynegwyd gennych yn unig, ac yn unol â chyfraith berthnasol.

7. Rhannu gyda thrydydd parti

Rydym yn rhannu gwybodaeth gyda mynychwyr, darparwyr gwasanaeth, cwmnïau cysylltiedig, partneriaid, arddangoswyr a thrydydd partïon eraill lle mae angen cyflawni ein rhwymedigaethau o dan ein contract gyda chi, i ddarparu’r Gwasanaethau, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn y Polisi Preifatrwydd.

Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i bob trydydd parti barchu diogelwch eich data personol a’i drin yn unol â’r gyfraith. Nid ydym yn caniatáu i’n darparwyr gwasanaeth trydydd parti ddefnyddio’ch data personol at eu dibenion eu hunain; rydym ond yn caniatáu iddynt brosesu eich data personol at ddibenion penodol ac yn unol â’n cyfarwyddiadau.

Rhannu gyda mynychwyr eraill, arddangoswyr a Phartneriaid trwy ein Ap

Mae ein Gwasanaethau, fel y wefan a’r ap Digwyddiad cysylltiedig, yn rhoi modd i fynychwyr wneud cysylltiadau â mynychwyr eraill, arddangoswyr a phartneriaid. Er enghraifft, efallai y bydd y wybodaeth broffil y byddwch yn dewis ei darparu i ni’n hygyrch i fynychwyr eraill, arddangoswyr a phartneriaid y Digwyddiad (mae gan fynychwyr reolaeth lawn dros eu gwelededd a’u dewisiadau o ran rhannu data, a gallant reoli’r gosodiadau hyn yn uniongyrchol o fewn y platfform). 

Mae ap platfform y Digwyddiad hefyd yn gweithredu o dan ei bolisi preifatrwydd ei hun, sy’n rheoli casglu, prosesu a storio data gan ddarparydd y platfform. Anogir mynychwyr i fwrw golwg ar y polisi hwn wrth greu cyfrif. Yn ogystal, mae nodweddion gwelededd data’r ap wedi’u cynllunio i feithrin cysylltiadau proffesiynol, alinio ag amcanion y Digwyddiad, a galluogi ymgysylltiad ystyrlon ymhlith cyfranogwyr.

Marchnata

Er mwyn hyrwyddo ein buddiannau cyfreithlon wrth farchnata’r Gwasanaethau, rydym yn dibynnu ar lwyfannau marchnata a darparwyr gwasanaeth trydydd parti i’n cynorthwyo a chyflawni rhai gwasanaethau marchnata ar ein rhan ni.

Os ydych yn rhannu eich cyfeiriad e-bost â ni, efallai y byddwn yn defnyddio gwybodaeth sydd gennym amdanoch i deilwra cynnwys noddedig ar gyfryngau cymdeithasol a gwefannau hysbysebu cyffredin eraill, fel Facebook, LinkedIn, Google neu Twitter. Rydym yn paru cyfeiriadau e-bost wedi’u hamgryptio yn ddiogel trwy ein prosesydd trydydd parti. Dim ond os yw eisoes wedi’i ddefnyddio ar gyfer cyfrif ar eu gwefan y gall y safle cyfryngau cymdeithasol weld cyfeiriad e-bost. Nid ydym yn darparu unrhyw ddata newydd ar ddefnyddwyr. Mae croeso i chi hefyd adolygu ein polisi cwcis ar gyfer eich opsiynau i reoli sut rydym yn defnyddio cwcis a thechnolegau tebyg ar gyfer hysbysebu. 

Darparwyr gwasanaeth trydydd parti

Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i’n helpu i weithredu, darparu, gwella, deall, addasu, cefnogi a marchnata ein Gwasanaethau. Mae’r trydydd partïon hyn yn darparu gwasanaethau i ni gan gynnwys cymorth i gwsmeriaid, storio data a chynnal gwefannau, prosesu tocynnau a thaliadau, cyngor cyfreithiol a chydymffurfiaeth, ynghyd â marchnata a dadansoddi data. Mae’n ofynnol o dan delerau eu cytundeb i unrhyw drydydd parti o’r fath ddefnyddio eich gwybodaeth i ddarparu eu gwasanaeth i ni yn unig. Cânt eu gwahardd rhag ei defnyddio at eu dibenion eu hunain.

Ad-drefnu busnes

Mewn achosion lle rydym yn destun ad-drefnu, megis uno neu gaffael rhai o’n hasedau neu’r cyfan ohonynt, efallai y bydd angen i ni, yn unol â’n buddiannau cyfreithlon, rannu gwybodaeth yn ystod y trafodion. Mewn amgylchiadau o’r fath, mae’n bosibl y bydd eich gwybodaeth yn cael ei datgelu, lle caniateir hynny gan gyfraith berthnasol, mewn cysylltiad ag ailstrwythuro corfforaethol, gwerthu, neu aseinio asedau, uno, neu newidiadau rheolaeth eraill neu o ran ein statws ariannol.

Rhesymau cyfreithiol a diogelwch

Gallwn hefyd rannu eich gwybodaeth bersonol â thrydydd parti os ydym o dan ddyletswydd i ddatgelu neu rannu eich data personol er mwyn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol, neu er mwyn gorfodi neu weithredu ein telerau defnyddio a chytundebau eraill; neu i ddiogelu ein hawliau, eiddo, neu ddiogelwch ein haelodau a’u gweithwyr, neu eraill.

Gwybodaeth gyfanredol

Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn rhannu gwybodaeth gyfanredol neu ddienw, megis nifer y mynychwyr o sefydliad neu ddata sy’n gysylltiedig â’u rôl, gyda chwmnïau rydym yn cynnal busnes â nhw, gan gynnwys partneriaid, noddwyr, a hysbysebwyr.

8. Am ba hyd rydym yn storio eich gwybodaeth

Yn gyffredinol ni fyddwn yn cadw gwybodaeth bersonol amdanoch yn hwy nag sydd ei angen er mwyn i ni allu cyflawni’r swyddogaethau a ddisgrifir yn yr hysbysiad hwn. Fel arfer byddwn yn dileu gwybodaeth bersonol a gasglwn yn ymwneud â’r Digwyddiad a’n Gwasanaethau ar ôl deuddeg mis. Fodd bynnag, mae’n bosibl y byddwn yn cadw rhywfaint o wybodaeth (fel cofrestr presenoldeb) am gyfnod hwy os yw er ein budd cyfreithlon i wneud hynny neu lle mae’n ofynnol i ni wneud hynny, er enghraifft, at ddibenion bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, rheoleiddiol, treth, cyfrifyddu neu adrodd. Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol a gedwir fel rhan o’n cofnodion aelodaeth cyhyd â bydd y sefydliad hwnnw mewn aelodaeth.

Mewn rhai amgylchiadau byddwn yn gwneud eich data personol yn ddienw (fel na ellir ei gysylltu â chi mwyach) at ddibenion ymchwil neu ystadegol, ac os felly gallwn ddefnyddio’r wybodaeth hon am gyfnod amhenodol heb rybudd pellach i chi.

9. Trosglwyddo data

Fel busnes sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr, rydym yn prosesu data o fewn y DU, ond mae ein llwyfannau digidol neu bartneriaethau byd-eang yn golygu efallai y bydd angen i ni gyrchu a throsglwyddo gwybodaeth o gwmpas y byd. Rydym yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol yn unol â chyfraith diogelu data berthnasol y DU, a rhaid i ni gymryd camau i sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei diogelu’n briodol i’r safonau a osodir dan gyfraith y DU.

Pryd bynnag y byddwn yn trosglwyddo eich data personol allan o’r DU i drydydd parti, rydym yn sicrhau bod lefel debyg o amddiffyniad yn cael ei roi iddo trwy sicrhau bod y mesurau diogelu canlynol ar waith:

10. Eich hawliau

Mae gennych hawliau cyfreithiol amrywiol mewn perthynas â’r wybodaeth a roddwch i ni, neu yr ydym yn ei chasglu amdanoch, fel a ganlyn:-

Os dymunwch arfer unrhyw un o’ch hawliau cyfreithiol, cysylltwch ag Avril Lewis trwy ysgrifennu i’r cyfeiriad ar frig y polisi hwn, neu trwy anfon e-bost at avril.lewis@technologyconnected.net. 

Ni fydd yn rhaid i chi dalu ffi i gael mynediad at eich data personol (neu i arfer unrhyw un o’r hawliau eraill). Fodd bynnag, efallai y byddwn yn codi ffi resymol os yw’n amlwg bod eich cais yn ddi-sail, yn ailadroddus neu’n eithafol. Fel arall, gallem wrthod cydymffurfio â’ch cais o dan yr amgylchiadau hyn.

Mae’n bosibl y bydd angen i ni ofyn am wybodaeth benodol gennych i’n helpu i gadarnhau pwy ydych a sicrhau eich hawl i gael mynediad at eich data personol (neu i arfer unrhyw un o’ch hawliau eraill). Mae hwn yn fesur diogelwch i sicrhau nad yw data personol yn cael ei ddatgelu i unrhyw berson nad oes ganddynt hawl i’w dderbyn. Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn cysylltu â chi i ofyn i chi am ragor o wybodaeth mewn perthynas â’ch cais i gyflymu ein hymateb.

Rydym yn ceisio ymateb i bob cais cyfreithlon o fewn mis. O bryd i’w gilydd gallai gymryd mwy na mis i ni os yw eich cais yn arbennig o gymhleth neu os ydych wedi gwneud nifer o geisiadau. Yn yr achos hwn, byddwn yn eich hysbysu ac yn eich diweddaru ynghylch unrhyw gynnydd a wnaed. 

Mae gennych hefyd yr hawl, ar unrhyw adeg, i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych yn credu nad ydym yn cydymffurfio â’r cyfreithiau a’r rheoliadau sy’n ymwneud â defnyddio/storio’r wybodaeth a roddwch i ni, neu yr ydym yn ei chasglu amdanoch. Fodd bynnag, byddem yn gwerthfawrogi’r cyfle i ddelio â’ch pryderon cyn i chi gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd, felly a fyddech cystal â chysylltu â ni yn y lle cyntaf.

11. Diogelwch

Mae diogelwch eich gwybodaeth bersonol yn bwysig i ni. Rydym yn ymdrechu i ddefnyddio sgiliau technegol a threfniadol priodol i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol. Er gwaethaf y mesurau hyn, nid yw’r Rhyngrwyd yn amgylchedd cwbl ddiogel, ac ni allwn warantu na fydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhyng-gipio neu ei chyrchu’n amhriodol. Rydym wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o dorri rheolau data personol, a byddwn yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys am doriad lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.

12. Plant

Gall y rhai sydd o dan 18 oed fynychu Wythnos Dechnoleg Cymru os ydynt yng nghwmni oedolyn neu warcheidwad, yn dibynnu ar oedran y mynychwr. Ni fydd data ynghylch mynychwyr sydd o dan 18 oed, yn enwedig y rhai sy’n cymryd rhan yn Talent4Tech, yn cael ei rannu ag unrhyw bartneriaid nac arddangoswyr o dan unrhyw amgylchiadau. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ein cyfyngiadau oedran yn ein contract gyda chi.

13. Newidiadau i’r Polisi Preifatrwydd hwn

Mae’n bosibl y byddwn yn diweddaru’r Polisi Preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd, felly byddem yn eich cynghori i’w adolygu’n achlysurol. Os byddwn yn gwneud newidiadau sylweddol, byddwn yn cymryd camau i roi gwybod i chi. Bydd dyddiad y diwygiadau diweddaraf yn ymddangos yma.

18 Rhagfyr 2024

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch y Polisi Preifatrwydd hwn neu ein harferion preifatrwydd yn gyffredinol, neu os hoffech arfer eich hawliau statudol, gallwch gysylltu â ni yn:

Swyddog Diogelu Data

Gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data yma: avril.lewis@technologyconnected.net 

Neu fel arall ysgrifennwch atom yn:

Wythnos Dechnoleg Cymru, ESTnet Cyf. Trade Street Desks, 14 Trade Street, Caerdydd, CF10 5DT